Blog

Bod yn aelod o Côr y Penrhyn
Being a member of Côr y Penrhyn

Bod yn aelod o gôr - Aled Williams
 
“Diolch byth”, meddai rhywun, “nad ydym ni i gyd ddim yr un fath!” **

Oes, yn sicr, mae gwahaniaethau rhyngddom – ein dyheadau, ein tueddiadau ein hoffterau – mae’r rhestr yn eang – ond, yn ogystal, mae angen cwmniaeth ar y rhan fwyaf ohonom a cheisir hynny drwy gymdeithasau, sefydliadau, a chwaraeon o bob math. 

Difyr yw cael cyd-weithio gydag eraill i ddysgu a datblygu crefftau a sgiliau a bod yn greadigol ar gyfer ein mwyniant ni ein hunain a phawb sydd â diddordeb. Fel bodau dynol, mor ffodus ydym o allu cyfathrebu’n rhyngwladol drwy gyfrwng cerddoriaeth o bob math y gellir ei gynhyrchu gan offerynnau di-ri, boed yn llinynnol, chwyth neu daro.

Cawn fendith, y rhan fwyaf ohonom sydd yn ffodus, o fod yn berchen offeryn rhad o’n mebyd sef ein corn gwddf a’n hysgyfaint - dim gwahaniaeth pa un ai llwy bren neu arian lenwai ein cegau **. Mae ansawdd llais a dawn gerddorol ambell un yn eu codi i uchelfannau, wrth gwrs, ond i’r rhan fwyaf ohonom cael ‘gwneud y mwyaf o beth sydd gennym’ ydyw’r nôd. Wedi’r cwbl, ni allai llawer o’n cyn-dadau fforddio offerynnau, ond gwnaent y mwyaf o’u doniau a’u hadnoddau naturiol gan gyd-weithio i greu corau a cherddoriaeth rhagorol ac andabyddus yn fyd-eang. 

I mi’n bersonnol, mae cael dysgu a chyd-weithio’n lleisiol gyda’m cyfeillion mewn côr i greu’r persain a’r harmonîau gorau posibl yn rhoi gwefr unigryw – yn enwedig drwy ddefnydd o offeryn sydd yn rhad ac am ddim! Credaf mai cerddoriaeth yw cilbost pob côr ac mai rhagoriaeth ‘yn y gan’ ddylai gael blaenoriaeth gan bob aelod. ‘Rydym yn ffodus iawn fel aelodau o Gôr y Penrhyn fod gennym hyfforddwyr medrus sydd yn ein dysgu i feithrin a datblygu ein techneg o leisio’n gywir a cherddorol a thrwy hynny i gyfleu neges y geiriau holl-bwysig – beth bynnag fyddo’r iaith. Mwynhâd pur, felly yw cael diddanu cynulleidfaoedd mewn llawer man a gwlad a’u gweld yn cael ysbrydoliaeth a chalondid o ffrwyth ein llafur. Braint hefyd yw cael cynnal ein hiaith a’n hetifedd ni yn y modd yma. 

Braf iawn yw gallu codi arian blynyddol mewn modd ddifyr at elusennau.

Rhan annatod o fywyd côr (meibion) yw’r brawdgarwch. Mae hynny’n meithrin cyfeillgarwch, dygnwch a chyd-weithrediad i drin materion gweinyddol y côr. Mae’r frawdoliaeth yma yn gallu ysbrydoli llawer o’r tu allan i’r côr yn ogystal. Pan drefnir teithiau, bydd llawer yn mwynhau’r hwyl a’r sbri sydd yn gysylltiedig â hynny. Bydd teithiau côr bob amser yn rhoi cyfle da i’r aelodau ymgymysgu a chreu perthynas a chyfeillgarwch newydd a cheir ffraethineb a thynnu coes heb ei ail – a hynny i gyd yn ein mamiaith werthfawr.

Gwyr pawb, mae’n debyg fod canu’n gallu codi ysbryd. Fel aelod o gorau ers dros hanner canrif, bellach gallaf roi tystiolaeth cryf fod hyn yn hollol wir. Gwn i mi fynd i aml o ymarferion cor yn “llwythog a blinderog” – hyd yn oed yn isel fy ysbryd ar brydiau – a dychwelyd adref (heb fynd i’r dafarn!) wedi cael llwyr ollyngdod o’r cyflwr a cherddoriaeth swynol yr ymarfer yn llenwi fy mhen. Dyma’r therapi gorau sydd yn bod!

Felly dyna fo- i mi does dim tebyg i gwmni, cymdeithas a gweithgareddau côr.
Aled

Share by: