Cyfarwyddwr Cerdd a Chyfeilydd
Cyfarwyddwr Cerdd: 
Owain Arwel Davies B.Mus M.C.G.I

Fe raddiodd Owain Arwel Davies gyda gradd anrhydedd o Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor yn 1999, mae’n gyn Bennaeth yr Adran Gerdd yn Ysgol Tryfan, Bangor ac bellach mae wedi ei benodi fel Arweinydd Addysg Gynhwysol Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae wedi cael yr anrhydedd o gynhyrchu a pherfformio ar nifer o recordiau, yn enwedig CD diweddaraf y côr – Anthem. Fel cerddor amryddawn mae hefyd wedi perfformio a recordio gyda rhai o fandiau mwyaf blaenllaw Roc a Pop Cymru gan gynnwys ‘Band Pres Llareggub’ yn fwy diweddar. Fe enillodd gryn fri am ei gynyrchiadau cerddorol ym maes Theatr Cerdd, recordiau a chynyrchiadau teledu. Yn 2013 a 2016, roedd yn gyfarwyddwr cerdd i gynhyrchiad S4C yn y rhaglen “Carolau Llandudno” yn cyfarwyddo, trefnu ac arwain y mil o leisiau yn ogystal ag artistiaid fel Wynne Evans, Peter Karrie, Sioned Gwen Davies a llawer mwy. Bu’n gyfrifol am weithio ar gomisiwn cerddorol newydd, a gafodd ei gynhyrchu a’i berfformio ganddo yn “Theatr Bryn Terfel”- Pontio , fel rhan o agoriad Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi Prifysgol Bangor yn 2015.

Mae Owain Arwel yn enwog yng Nghymru fel athro cerdd sydd â dawn i hybu myfyrwyr ifanc talentog, a aeth ymlaen i fod yn gerddorion proffesiynol.

Yn 2014 dathlodd Owain Arwel ddeng mlynedd fel Cyfarwyddwr Cerdd Côr y Penrhyn ac o dan ei arweiniad mae’r côr wedi sefydlu ei hun fel un o’r corau amlycaf yng Nghymru am gyflwyno adloniant lleisiol.

Cyfeilydd:
Frances Davies , B .Mus., M.A., Ph.D

Yn enedigol o Ddihewyd, Ceredigion, mae'n athrawes llanw ac hefyd yn addysgu plant i chwarae’r piano. 

Bu'n fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth ac yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd ym Mhwllheli ar yr unawd piano. Mae'n aelod oes, Urdd Cerdd Ofydd yr Orsedd. Ei henw yng Ngorsedd yw Frances Dalis. 

Yn 2007, derbyniodd ysgoloriaeth gan yr C.Y.E.Ch i wneud ymchwil i’r defnydd o iaith yng Nghaernarfon. Derbyniodd PhD ar ddechrau 2013 mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol.
Dirprwy Gyfarwyddwr Cerdd:
Caleb Rhys Jones B.Mus

Magwyd Caleb, yr hynaf o bump o blant yn Gerlan, pentref bach uwchben Bethesda. Ar ôl mynychu ysgolion cynradd Abercaseg a Pen-y-bryn ym Methesda, derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Tryfan, Bangor. Astudiodd Hanes, Cymraeg a Cherddoriaeth yn y Chweched Dosbarth. 

Mae o bellach yn wedi graddio mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. 

Ymunodd Caleb ag adran Bas Cyntaf y côr yn ôl yn 2013, yn 16 oed. 

Mae Caleb wrth ei fodd yng nghwmni hogiau’r côr, ac yn mwynhau pob agwedd o fywyd prysur y côr. 
Share by: