Hanes Côr y Penrhyn

Mae gwreiddiau’r côr hwn ym mhentref chwarelyddol Bethesda. Saif y pentref ynghanol Dyffryn Ogwen ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri oddeutu pum milltir i’r de ddwyrain o ddinas Bangor a’i phrifysgol enwog.

Gall y côr olrhain ei wreiddiau yn ôl cyn belled â’r 1880au pan ffurfiwyd côr mawr allan o’r corau llai oedd yn bodoli ar y gwahanol bonciau yn Chwarel Fawr y Penrhyn gerllaw. Teithiodd y côr hwnnw i Chicago ym 1893 i gymryd rhan yn Ffair Fawr y Byd oedd yn cael ei chynnal yno’r flwyddyn honno. Erbyn hynny roedd yr enw Côr Meibion y Penrhyn wedi ei sefydlu ac fe deithiodd y côr presennol yn ôl i Chicago yn 1993 i ddathlu canmlwyddiant ymweliad eu cyndadau. Yn anffodus mae bwlch yn yr hanes ar ôl y rhyfel byd cyntaf ac fe ffurfiwyd y côr presennol ym 1935. Ar y cychwyn roedd holl aelodau’r côr yn chwarelwyr gan fod gweithlu o bron i 3000 o ddynion yn gweithio yn y chwarel ar y pryd ond crebachodd y nifer hwnnw i lawr i tua 200 erbyn hyn. Mae’r aelodau bellach yn cynnwys athrawon ysgol, swyddogion llywodraeth leol, ffermwyr a gwŷr busnes. Mae nifer o aelodau wedi ymddeol o’u swyddi ac o’r herwydd yn gallu neilltuo mwy o amser i alwadau’r côr.

Mae’r côr wedi cael y fraint o ganu o flaen torf o 75,000 o gefnogwyr rygbi yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar dri achlysur ac wedi gwneud sawl ymddangosiad ar y teledu mewn rhaglenni Cymraeg a Saesneg.

Mae Côr Meibion y Penrhyn ymhlith y prysuraf o holl gorau Cymru ac mae wedi rhannu llwyfan â rhai o brif gantorion ein gwlad gan gynnwys Rhys Meirion ac Wynne Evans. Yn y gorffennol mae wedi canu gyda’r bas-bariton byd enwog Bryn Terfel a chyda Rebecca Evans y soprano. 

Yn 2013 fe gynhyrchwyd Anthem, CD sy’n cynnwys cymysgedd eclectig o ganeuon o dros y byd er bod y pwyslais yn naturiol ar ganeuon Cymreig cynhenid. Mae Rhys Meirion, prif denor Cymru i’w glywed yn canu gyda’r côr ar y CD honno. 

Ar ddiwedd 2018 fe ruddhawyd CD newydd gan y côr, sef “Gwlad”, sydd nawr ar werth yn y siopau, ac o'r wefan hon, sydd yn cynnwys dau ddarn a recordiwyd gyda band pres Black Dyke, cerddorion lleol Gwyn Owen a Patrick Rymes, Angharad Wyn Jones a’r actor lleol John Ogwen, ar CD eclectig o ddarnau enwog Cymreig yn ogystal â darn a gomisiynwyd yn arbennig i gorau meibion a band pres “Tiroedd Ein Cof”.

Yn ddiweddar iawn bu’r côr yn gweithio ac yn recordio gyda band byd enwog The Good, The Bad and the Queen, eu prif leisydd yw Damon Albarn a oedd yn rhan o’r grwpiau Gorillaz a Blur.

Maent hefyd wedi bod yn recordio rhaglen deledu o’r enw “The Secrets of the National Trust” yn Castell Penrhyn gyda Alan Titchmarsh a fydd yn cael ei ddarlledu’n fuan ar Sianel 5.

Mae Côr Meibion y Penrhyn wedi teithio’n helaeth dros yr ugain mlynedd diwethaf gan gynnwys Yr Unol Daleithiau deirgwaith, Yr Almaen, Y Ffindir, Yr Iwerddon a Chanada yn ogystal â Chymru, Lloegr a’r Alban. 

Yn 2015 fe deithiodd y côr i America unwaith eto, y tro yma ar wahoddiad Cymdeithas Cymanfa Ganu Gogledd America, i ganu yn y Gymanfa Ganu yn Columbus, Ohio. Tra yn yr Unol Daleithau fe deithiodd y côr i Washington a chanu yn y Gadeirlan Cenedlaethol, yna i Efrog Newydd ac yna i Glens Falls, sydd yn agos i Poultney, Vermont i ymweld a ffrindiau yn yr ardal a chynnal cyngerdd i’w diddanu, cafwyd croeso anhygoel yma.  Un o’r uchafbwyntiau oedd wedyn i ganu yn y gymanfa, ac mewn cyngerdd mawreddog yn Columbus. Byddwn yn dychwelyd i America yn 2020, unwaith eto i ganu yn y Gymanfa, tro yma yn Philadelphia.

Share by: